CAPELI YNG NGHYMRU: Cadwraeth a Thrawsnewid
© Cadw: Welsh Historic Monuments 2003 ISBN 1 85760 191 2
Introduction
Mae’r miloedd o gapeli a adeiladwyd yng Nghymru yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf yn rhan annatod o dreftadaeth bensaernïol y wlad. Er hynny, cânt eu heffeithio’n fawr gan batrymau cyfnewidiol ein cymdeithas. Mae newidiadau yn y patrwm addoli a symudiadau o fewn y boblogaeth wedi arwain at nifer cynyddol o gapeli ledled Cymru yn cael eu defnyddio’n llai neu’n mynd yn segur. Nid oes angen nifer o gapeli bellach o safbwynt diben yr adeiladu gwreiddiol; yr hyn sydd yn fwy arwyddocaol yw bod nifer o gapeli eisoes wedi’u colli. Mae rhai capeli nad oes eu hangen bellach ar gyfer addoli o’r fath bwys pensaernïol neu hanesyddol nad yw eu cadw yn cael ei amau. Mae yna rai adeiladau capel, wrth gwrs, y gellir derbyn eu dymchwel heb unrhyw golled wirioneddol i’r dreftadaeth adeiledig. Trydydd categori pwysig iawn o gapeli segur yw’r rheiny y mae eu cadw yn dibynnu ar eu haddasu’n briodol at ddefnydd ymarferol arall. Bwriad y llyfryn hwn yw cynnig braslun o’r sefyllfa bresennol, esbonio treftadaeth pensaernïaeth capeli, a darparu arweinaid ar yr egwyddorion y mae’n rhaid eu cadw mewn cof wrth drawsnewid capeli at ddibenion eraill.
Y SEFYLLFA BRESENNOL
Capeli mewn Oes Gyfnewidiol

Ers yr Ail Ryfel Byd, mae sefyllfa capeli Anghydffurfiol yng Nghymru wedi newid yn aruthrol. Mae gostyngiad parhaus yn y nifer sy’n mynychu, a lleihad ym maint cynulleidfaoedd yn sgîl hynny, ynghyd ag anawsterau cynnal a chadw, wedi arwain at leihad sylweddol yn nifer y capeli sy’n gweithio. O ganlyniad, mae nifer o gapeli wedi cau am nad oes eu hangen bellach. Gwerthir y capeli ychwanegol i’r rheiny sy’n gallu ac sy’n barod i’w prynu, neu cefnir arnynt a chânt eu gadael i bydru a graddol chwalu nes eu bod yn troi’n adfeilion peryglus a diflas yr olwg. Mewn achosion eraill, efallai y bydd cynulleidfaoedd yn dymuno gwneud newidiadau mewnol er mwyn derbyn tueddiadau newydd yn y modd y mae pobl yn addoli. Cynyddodd y broses o gau capeli, a ddechreuodd yn araf bach, yn gyflym wedyn wrth i fwy a mwy o gynulleidfaoedd fethu â chynnal baich y gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio. Mae rhai amcangyfrifon yn nodi bod gymaint ag un capel bob wythnos yn cau. Mae’r sefyllfa anffodus bresennol, yn wir, i’r gwrthwyneb yn llwyr i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg pan arweiniai ton o frwdfrydedd crefyddol at agor capel newydd bob wythnos drwy gydol y rhan fwyaf o’r ganrif. Ar un adeg mynychwyr capeli oedd yn ffurfio’r rhan helaethaf o’r gymdeithas Gymreig, gan ddylanwadu ar lawer o syniadau cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol yr oes. Yn wir, cyn yr Ail Ryfel Byd, gymaint oedd cryfder a dylanwad Anghydffurfiaeth yng Nghymru bod tri neu bedwar capel ar gyfer pob un eglwys Anglicanaidd. Mae’r golled felly i ddiwylliant crefyddol a threftadaeth bensaernïol a hanesyddol y genedl o ganlyniad i gapeli y cefnwyd arnynt neu sydd wedi cau yn enbyd. Mewn nifer o bentrefi a chymunedau yng Nghymru, yn y trefi yn enwedig, y capel yw, neu oedd, yr adeilad amlycaf. Mae capeli eraill, yn enwedig yng nghefn gwlad, yn llai amlwg ond mae ganddynt du mewn syml ond ysgytwol sy’n ein hatgoffa o ddyddiau cynnar Anghydffurfiaeth. Mae nifer o gapeli yn enghreifftiau gwych o arddulliau pensaernïol eu cyfnod, gan ddefnyddio — ar y cyfan — carreg leol, a dorrwyd â llaw, a’u haddurno ag elfennau Clasurol neu Gothig. Ychydig iawn o bobl a all fforddio adeiladu yn y fath fodd heddiw, neu yn wir a fyddai’n dymuno gwneud hynny. Felly mae ymron yn amhosibl adennill y strwythurau hyn sy’n darlunio brwdfrydedd crefyddol a chrefftwaith pensaernïol oes a fu. Mae’n bwysig felly lleihau’r golled gymaint ag y bo’n bosibl. Gellir gwneud hyn mewn dwy ffordd:
• Gellir rhestru capeli addas o bwys pensaernïol neu hanesyddol yn ffurfiol er mwyn sicrhau y caiff eu diddordeb arbennig ei ystyried wrth wneud cynigion i’w newid neu eu dymchwel.
• Lle bo newid yn anochel gellir lleihau’r effaith drwy ddylunio sensitif ac ystyrlon.

Listing and Alternative Uses
Rhestru a Defnydd Arall Mae capel sydd o ddiddordeb a gwerth arbennig, beth bynnag fo’i oedran, yn gymwys i’w ystyried ar gyfer cael ei warchod drwy’r broses ‘restru’. Unwaith y caiff capel ei restru, bydd yn rhaid i’w berchennog gael caniatâd arbennig (sef Caniatâd Adeilad Rhestredig) gan yr awdurdod lleol cyn gwneud unrhyw waith fydd yn newid cymeriad yr adeilad. Er bod rhai perchnogion yn ystyried capeli hanesyddol fel maen melin o gwmpas eu gyddfau, mae nifer o gapeli rhestredig yn parhau i gael eu defnyddio a — lle nad yw’r defnydd gwreiddiol yn ymarferol bellach — gellir eu defnyddio at ddibenion eraill yn aml. Nid yw rhestru yn fodd i atal cynnydd. Fodd bynnag, mae’n darparu ychydig o amser i alluogi cynllunwyr, datblygwyr, unigolion a grwpiau â diddordeb arbennig i gael y cyfle i ystyried pwysigrwydd pensaernïol neu hanesyddol capel. Yn aml, ystyrir y broses rhestru a’r broses caniatâd adeilad rhestredig yn rhai biwrocrataidd a negyddol, a hynny’n ddianghenrhaid. Mewn gwirionedd, cymeradwyir mwyafrif y ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig yn y pen draw. Wrth restru capel, nid yw’n fwriad peidio â’i ddefnyddio o gwbl eto. Mewn gwirionedd, mae’r gred y caiff buddiannau tymor hir capel hanesyddol — fel gyda’r rhan fwyaf o adeiladau — eu diogelu orau os ydyw’n parhau i gael ei ddefnyddio yn sylfaen i’r ddeddfwriaeth restru. Yn achos unrhyw adeilad, y defnydd neu’r swyddogaeth orau ar ei gyfer yw’r un y cynlluniwyd ar ei gyfer yn wreiddiol, sef neuadd yn achos capel. Os na fydd hyn yn bosibl, a bod yn rhaid canfod defnydd cwbl newydd, bydd yn rhaid wrth newidiadau. Pan fo newid yn amlwg yn anochel, mae’n hynod bwysig bod nodweddion pensaernïol a natur yr adeilad yn cael eu parchu, a bod cyn lleied o newidiadau gweledol a ffisegol yn digwydd ag y bo’n bosibl. Nid yn unig y dylai unrhyw newidiadau i’r cynllun gwreiddiol fod yn ystyrlon a sensitif, ond dylai unrhyw ddeunyddiau newydd a ddefnyddir hefyd fod yn addas a dylid meddwl amdanynt yn ofalus. Dylai pob rhan o’r adeilad, gan gynnwys y rhai nad ydynt mewn golwg fel arfer, gael ei atgyweirio yn ôl y gofyn, dylid tynnu hen elfennau sydd wedi treulio a gosod rhai newydd sy’n union yr un fath â’r gwreiddiol, a dylid ystyried nodweddion presennol ychwanegol, lle bynnag y bo’n bosibl, ar gyfer eu hail-ddefnyddio’n adeiladol o fewn yr adeilad er mwyn cyflawni cynaladwyedd a pheidio â’u colli. Mewn geiriau eraill, mae’n rhaid i gamau cadwraeth a thrawsnewid fynd law yn llaw. Lluniwyd Rhestrau gwreiddiol o Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig yng Nghymru yn y 1950au ac fe’u hystyrir bellach yn annigonol. Roedd hyn yn arbennig o wir o safbwynt capeli a ystyriwyd yn rhy aml yn y gorffennol fel adeiladau diflas ac unffurf. O ganlyniad, er bod yr ail-arolwg cenedlaethol yn parhau, mae Cadw wedi cwblhau asesiad o’r holl gapeli hanesyddol gan restru’r rhai hynny sy’n briodol ar gyfer eu gwarchod yn stadudol. Mae’r capeli sy’n goroesi yn cynrychioli ystod eang o gyfnodau ac arddulliau, gan ymestyn o’r ail ganrif ar bymtheg i’r ugeinfed ganrif cynnar, ac o flychau pregethu syml i gyfadeiladau addurnol enfawr. Ochr yn ochr ag ail-arolwg cyflym Cadw, mae’r Comisiwn Brenhinol ar Henebion Cymru, gyda chydweithrediad Capel (Y Gymdeithas Treftadaeth Capeli), yn ymgymryd â chofnodi pob capel Anghydffurfiol y naill ar ôl y llall. Felly, yn y pen draw, bydd gwybodaeth ar yr ystod gyfan o gapeli yng Nghymru yn ogystal â’r rheiny sydd o ddiddordeb pensaernïol a hanesyddol arbennig.
TREFTADAETH PENSAERNÏAETH CAPELI
Dyddiau Cynnar
Mae dechrau Anghydffurfiaeth yng Nghymru yn dyddio yn ôl i’r ail ganrif ar bymtheg pan drefnodd William Wroth (m. 1641) ei ddilynwyr yn eglwys Biwritanaidd, mewn cyfarfod hanesyddol ym 1639 yn Llanfaches ger Casnewydd. Deng mlynedd yn ddiweddarach, sefydlwyd capel cyntaf y Bedyddwyr yn Ilston ar Benrhyn Gwˆyr. Ymhen ugain mlynedd amcangyfrifwyd bod rhwng 300 a 600 o bobl eisoes yn mynychu cyfarfodydd dirgel yn ardal Merthyr Tudful. Erbyn diwedd y ganrif sefydlwyd ychydig mwy o gapeli mewn rhannau eraill o Gymru. Mae dau o’r rhain, sef capel Bedyddwyr Llanwenarth yn Gofilon yn Sir Fynwy (a adeiladwyd ym 1695 a’i ymestyn yng nghanol y ddeunawfed ganrif) a chapel Annibynwyr Maesyronnen ym Mhowys (a adeiladwyd 1696–97), yn goroesi o hyd, ac felly dyma gapeli Anghydffurfiol hynaf Cymru. Drwy gydol y ddeunawfed ganrif parhaodd y mudiad Anghydffurfiol i gryfhau a chynyddu ei fomentwm. Yn ystod blynyddoedd cynnar y ganrif codwyd nifer o gapeli bach yn yr ardaloedd diwydiannol a oedd yn datblygu yn y de-ddwyrain, ac yn eu plith roedd Capel Groes Wen ger Caerffili (1742) — y capel Methodist Calfinaidd cyntaf yng Nghymru. Erbyn ail hanner y ganrif roedd capeli yn cael eu hadeiladu ym mhob rhan o Gymru. Ymddengys rhai, megis Capel Pen-rhiw yn nyffryn Teifi (a ail-godwyd bellach yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan), a Chapel Nanhoron ym mhenrhyn Llyˆn, iddynt gael eu trawsnewid o ysguboriau fferm. Ond adeiladwyd y rhan fwyaf i’r pwrpas yn ôl pob tebyg. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif codwyd mwy na chant o gapeli. Adeiladwyd nifer ohonynt yn y de diwydiannol ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn adeiladau syml, tebyg i ysguboriau â lloriau pridd a phulpud wedi’i osod yn y canol rhwng dwy fynedfa. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg tyfodd Anghydffurfiaeth yn gyflym gan fynd o nerth i nerth. Daeth yr hyn a fu gynt yn ddatblygiad digon anffurfiol ymysg ychydig o grwpiau ymroddedig yn sydyn yn symudiad nad gwiw ei ddiystyru. Erbyn canol y ganrif roedd Anghydffurfiaeth lawer yn fwy poblogaidd na’r eglwys Anglicanaidd sefydledig, o ran nifer ei hadeiladau a nifer yr addolwyr. Fel rhan o ddadl ar ‘amddifadrwydd ysbrydol’, ymgymerwyd â chyfrifiad addoli crefyddol ym 1851. Dangosodd y canlyniadau fod nifer y capeli (2,784) mwy na dwywaith nifer yr eglwysi Anglicanaidd (1,176) yng Nghymru. Ac o’r rheiny a oedd yn mynd i addoli roedd tua wyth deg saith y cant yn Anghydffurfwyr, cyfran lawer uwch nag yn Lloegr. Yr Oes Aur Yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dwysáu wnaeth tyfiant a datblygiad capeli. Cafodd llawer o gapeli eu hail-adeiladu unwaith o leiaf, ddwywaith weithiau, er mwyn gwneud lle ar gyfer nifer cynyddol o addolwyr. Sefydlwyd llawer o gapeli newydd yng nghefn gwlad ac yn y trefi a oedd yn tyfu’n gyflym. Yn y de, yn enwedig, adlewyrchwyd trawsnewid y cymoedd glofaol yn ardaloedd trefol gan nifer y capeli Anghydffurfiol a gynyddodd yn gyflym yn nhrefi’r cymoedd. Rhoddwyd hwb ychwanegol i aelodaeth capeli ac adeiladu capeli gan yr adfywiadau crefyddol a ddigwyddai’n gyson — ac yn aml ar y cyd ag achosion difrifol o golera — drwy gydol y ganrif. O ganlyniad i’r holl weithgaredd hwn roedd mwy o gapeli yn ne Cymru nag yn unrhyw ran arall o Brydain. Yn nau gwm y Rhondda yn unig, adeiladwyd mwy na chant a hanner o gapeli yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, y rhan fwyaf ohonynt rhwng 1870 a 1900. Ailadroddwyd patrwm tebyg ar raddfa lai yn ardaloedd diwydiannol gogledd-ddwyrain Cymru. Erbyn 1905 ychwanegwyd dwy fil o gapeli eraill i’r cyfanswm. Roedd rhagor i ddod eto, yn enwedig ar ôl adfywiad crefyddol enwog 1904–05 a greodd mwy o frwdfrydedd byth dros yr achos. Parhaodd adeiladu capeli hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn dilyn y rhyfel, dechreuodd pobl ddadrithio, effeithiwyd ar lawer un oherwydd diweithdra, a daeth adeiladu capeli, ar wahân i ambell achos prin, i ben yn sydyn. Erbyn hynny roedd tua phum mil o gapeli wedi eu hadeiladu yng Nghymru — mwy na digon, dywed rhai, ar gyfer poblogaeth o ddwy filiwn a chwarter.
Yr Oes Aur
Yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dwysáu wnaeth tyfiant a datblygiad capeli. Cafodd llawer o gapeli eu hail-adeiladu unwaith o leiaf, ddwywaith weithiau, er mwyn gwneud lle ar gyfer nifer cynyddol o addolwyr. Sefydlwyd llawer o gapeli newydd yng nghefn gwlad ac yn y trefi a oedd yn tyfu’n gyflym. Yn y de, yn enwedig, adlewyrchwyd trawsnewid y cymoedd glofaol yn ardaloedd trefol gan nifer y capeli Anghydffurfiol a gynyddodd yn gyflym yn nhrefi’r cymoedd. Rhoddwyd hwb ychwanegol i aelodaeth capeli ac adeiladu capeli gan yr adfywiadau crefyddol a ddigwyddai’n gyson — ac yn aml ar y cyd ag achosion difrifol o golera — drwy gydol y ganrif. O ganlyniad i’r holl weithgaredd hwn roedd mwy o gapeli yn ne Cymru nag yn unrhyw ran arall o Brydain. Yn nau gwm y Rhondda yn unig, adeiladwyd mwy na chant a hanner o gapeli yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, y rhan fwyaf ohonynt rhwng 1870 a 1900. Ailadroddwyd patrwm tebyg ar raddfa lai yn ardaloedd diwydiannol gogledd-ddwyrain Cymru. Erbyn 1905 ychwanegwyd dwy fil o gapeli eraill i’r cyfanswm. Roedd rhagor i ddod eto, yn enwedig ar ôl adfywiad crefyddol enwog 1904–05 a greodd mwy o frwdfrydedd byth dros yr achos. Parhaodd adeiladu capeli hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn dilyn y rhyfel, dechreuodd pobl ddadrithio, effeithiwyd ar lawer un oherwydd diweithdra, a daeth adeiladu capeli, ar wahân i ambell achos prin, i ben yn sydyn. Erbyn hynny roedd tua phum mil o gapeli wedi eu hadeiladu yng Nghymru — mwy na digon, dywed rhai, ar gyfer poblogaeth o ddwy filiwn a chwarter.
Adeiladwyr Capeli
Yn sgîl gweithgaredd adeiladu capeli brwd yn ystod y canrifoedd blaenorol daeth arddull penodol o bensaernïaeth grefyddol. Ac, er bod capeli yn perthyn i nifer o enwadau gwahanol, yn aml mae undod o ran mynegiant. Ni chynlluniwyd mwyafrif y capeli cynnar gan benseiri, fel arfer gwaith adeiladwyr lleol oeddynt, a oedd ym aml yn aelodau o’r capel ei hun, ac yn cael eu syniadau o gatalogau darlunedig y cyfnod. Felly mae cymeriad cyffredin ymhlith yr adeiladau, er y gall y manylion, megis rhwyllwaith ar ffenestri, amrywio yn ôl arferion lleol. O tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cynlluniwyd fwyfwy o gapeli gan gynllunwyr proffesiynol, yn enwedig yn y trefi mwy eu maint. Mae nifer o benseiri capeli yn amlwg, megis John Humphrey (m.1888) o Abertawe, George Morgan (m. 1915) o Gaerfyrddin, Richard Owen (m. 1891) o Lerpwl a Beddoe Rees (m. 1931) o Gaerdydd. Mewn nifer o achosion, bu gweinidogion — a fu’n brentisiaid seiri neu adeiladwyr cyn ymuno â’r weinidogaeth — yn cynllunio eu capeli eu hunain ac eraill o’r un enwad.Y pregethwr-bensaer enwocaf oedd y Parch Thomas Thomas, Glandwˆr, a gynlluniodd nifer o gapeli yn ardal Abertawe yn ogystal ag yn rhannau gorllewinol a gogleddol y wlad. Ond yn ôl y sôn y pregethwr mwyaf cynhyrchiol oedd y Parch William Jones (m. 1907), Ton Pentre, y dywedir iddo fod yn gyfrifol am dros ddau gant o gapeli.
Pensaernïaeth Capeli
Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg a’r ddeunawfed ganrif, ac am lawer o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, osgôi adeiladwyr capeli y math o ddefod seremonïol a oedd yn gysylltiedig â’r eglwys Anglicanaidd yn fwriadol, ond yn hytrach gynllunio yn eu lle neuaddau pregethu â’r bregeth yn ganolbwynt i’r gwasanaeth. O ganlyniad, mae capeli yn tueddu i fod yn sgwâr o ran cynllun tra y daeth orielau mewnol teirochrog yn nodweddion pwysig ym mhob capel ond y rhai lleiaf. Anwybyddwyd y rheolau sefydlog ynghylch mesuredd yn aml ac yn eu lle defnyddiwyd egwyddorion newydd argyfer pob adeilad. Adeiladwyd y rhan fwyaf o gapeli yng Nghymru ag elfennau o’r arddull Glasurol, gyda ffenestri â phennau sgwâr neu grwn. O fewn y fframwaith Clasurol hwn datblygwyd yn barhaus trwy nifer o gyfnodau penodol. Mae cynllun y wyneb blaen, yn benodol, yn nodweddu’r dilyniant trwy’r cyfnodau hyn. Yn y cyfnod cynharaf cadwyd ffasâd y wal hir â golwg ddomestig a fabwysiadwyd gan dai cwrdd y ddeunawfed ganrif. Gosodwyd y pulpud yn y canol yn y wal rhwng parau o ddrysau a ffenestri cymesurol. Roedd y rhan fwyaf o gapeli cynt yn rhai unllawr heb orielau. Mewn cyfnodau diweddarach câi’r cynllun ei droi o gwmpas, ac felly roedd y fynedfa wrth y naill ben a’r pulpud yn y pen arall, yn y fan bellaf oddi wrth y stryd. Daeth y to talcennog yn nodwedd amlwg ar y tu allan, ac yng nghanol y prif wyneb blaen roedd carreg neu blac fel arfer yn datgan enw’r capel a dyddiad ei godi neu’i ail-adeiladu. Roedd y ffenestri yn dal, fel arfer â phennau crwn ac wedi’u gosod mewn trefn gymesurol â drysau’r fynedfa. Wrth i gynulleidfaoedd ddod yn fwy cyfoethog a mwy detholgar, magodd eu capeli fwy byth o nodweddion a ddeilliai o bensaernïaeth Glasurol. Daeth talcennau’r toi yn enfawr, ac ymgorfforwyd pedimentau Clasurol a cholofnau, pilastrau, cornisiau a chanllawiau bras yn y prif ffasadau. Mewn rhai capeli ychwanegwyd grisiau mewn tyrau unionsyth bob ochr i’r fynedfa, gan ddiffinio a phwysleisio’r prif wyneb. Tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg newidiodd cynlluniau capeli rywfaint. Collwyd yr ymdeimlad o gymesuredd a gosgeiddrwydd yn aml ac weithiau daeth gweddluniau yn rhy addurniadol a thrwm, gan dueddu i oraddurno a chymysgu arddulliau. Ar yr un pryd roedd mwy a mwy o gapeli yn cael eu hadeiladu mewn arddull Gothig, yn enwedig y rheiny a oedd yn eiddo i gynulleidfaoedd Saesneg eu hiaith ac yn agos i’r ardaloedd mwy seisnigaidd ar yr arfordir. Ar y cyfan, fodd bynnag, bu iddynt barhau fel amrywiaethau annodweddiadol o’u cymharu â phrif ffrwd flodeuog pensaernïaeth capeli Cymreig. Yn ogystal, bu ambell arbrawf ag arddulliau eraill megis Art Nouveau.
TRAWSNEWID CAPELI
Ad-drefnu neu Ddefnydd Newydd
Yn gyffredinol, gellir trawsnewid adeiladau capel mewn dwy ffordd — naill ai trwy ddefnyddio’r lle sy’n bodoli eisoes yn well at ddibenion y capel ei hun (gan gynnwys corff crefyddol arall yn dod o hyd i gapel segur at ddibenion addoli), neu drwy ganiatáu i’r adeilad gael ei ddefnyddio at swyddogaeth neu swyddogaethau eraill. Mae hefyd, wrth gwrs, yn bosibl ailfodelu capel — capel mawr yn enwedig — fel bod rhan ohono yn cael ei drawsnewid at ddefnydd newydd tra y caiff y gweddill ei ddefnyddio, er ar ei wedd newydd, at ddibenion crefyddol. Waeth pa fodd bynnag a ddefnyddir, bydd yr un egwyddorion trawsnewid cyffredinol — a anelir at gadw cymaint o gymeriad a ffabrig yr adeilad ag y bo’n bosibl er mwyn cyflawni cynaladwyedd — yn berthnasol. Wrth lunio cynigion manwl ar gyfer unrhyw waith ar gapel o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol, y peth gorau yw cyflogi pensaer sydd â phrofiad perthnasol blaenorol. Gall Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru helpu wrth ddewis pensaer addas. Yn allanol, nodwedd bensaernïol bwysicaf capel fydd y prif wyneb fel arfer, p’un ai hwn fydd ffasâd wal hir capel cynharach, neu dalcen pen y fynedfa fel yn achos y rhan fwyaf o gapeli diweddarach. Y prif wyneb, hefyd, fel arfer yw’r rhan fwyaf sensitif i’w thrin wrth wneud unrhyw gynigion ar gyfer newidiadau. Yn ddelfrydol, ni ddylid gwneud unrhyw newidiadau i’r prif wyneb, ond os bydd hyn yn amhosibl dylid gwneud cyn lleied o newidiadau ag y bo’n bosibl er mwyn cadw cymeriad gwreiddiol yr adeilad. Dylai addasiadau i rannau eraill o’r adeilad gael eu cyfyngu i’r hyn sy’n wirioneddol angenrheidiol, a dylid bob amser ystyried safle’r drysau a’r ffenestri presennol a’r deunyddiau a ddefnyddiwyd i adeiladu’r capel yn wreiddiol. Y tu mewn i gapeli, mae’r problemau sy’n deillio o drawsnewid yn aml yn gysylltiedig â gofynion gofod. Os bydd capel yn cael ei drawsnewid yn rhyw fath o neuadd, yna gellir cadw’r prif le — gan gynnwys unrhyw orielau — fel arfer yn y datblygiad newydd. Os bydd, fodd bynnag, swyddogaeth newydd yr adeilad yn golygu bod angen cyfres o leoedd llai, neu ystafelloedd ar lefelau gwahanol yna gall fod yn anodd neu’n amhosibl cadw’r lleoedd presennol. Serch hynny, hyd yn oed mewn sefyllfaoedd o’r fath yn aml bydd yn bosibl cadw nodweddion sy’n amlygu cymeriad y capel a fydd yn ‘dangos trwy’ y waliau a’r lloriau newydd. Yn y modd hwn, ni chaiff natur defnydd gwreiddiol yr adeilad ei golli. Yn y cyswllt hwn mae’n bwysig cadw cymaint o’r adeilad gwreiddiol ag y bo’n bosibl (hyd yn oed os na ellir ei weld o dan amgylchiadau arferol), ac y caiff unrhyw raniadau, lloriau, neu ymyriadau eraill eu cynllunio yn y fath fodd fel y gellir eu newid yn ôl i’r ffurf wreiddiol heb ddifrodi’r deunydd gwreiddiol. Fel hyn gellir symud y gwaith newydd — petai galw am hyn yn y dyfodol — a chaniatáu i’r gwaith gwreiddiol gael ei weld a gweithredu eto.

Ty Capel
Ty Haf, Rhiw-ddolion

Ar un adeg, roedd yr adeilad bychan hwn sy’n swatio yn un o ddyffrynnoedd diarffordd Eryri ger Betws-y-coed, yn nodweddiadol o lawer o gapeli gwledig ledled Cymru. Fe’i adeiladwyd yn gadarn o ddefnyddiau lleol ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i wasanaethu cymuned o ryw 150 o bobl, y rhan fwyaf ohonynt yn chwarelwyr a’u teuluoedd. Mae tair ffenestr bengrwn yn ychwanegu at y naws gartrefol. Cafodd yr adeilad ei achub gan y Landmark Trust a’i drawsnewid yn fwthyn haf ym 1969. A hithau’n amhosibl mynd ato ar hyd ffyrdd, bu’n rhaid cario’r holl ddeunyddiau trawsnewid mewn tryciau, ar hyd llwybrau coedwigaeth. Mae’r llety’n cynnwys lle byw ynghyd â man cysgu agored yn yr oriel uwchben cegin ac ystafell ymolchi. Dyma enghraifft gynnar o gapel yn cael ei drawsnewid â chadwraeth mewn golwg. Cadwyd y nenbrennau a’r nenfwd gwreiddiol o estyll, ac mae cryn dipyn o gymeriad y capel yno o hyd. Pensaer: L. Beddall Smith, Aberteifi.
Eglwys Bach Meddygfa, Pontypridd
Codwyd hwn ym 1899 er cof am y Parch John Evans o Eglwys Bach, mewn ymgais prin i adeiladu capel yn y Cymoedd yn ôl arddull Glasurol gyflawn. Gyda’i barau o golofnau, pedimentau a balwstrau o garreg ddrud Caerfaddon, mae hon yn enghraifft dda o’r wyneb blaen yn cael sylw manwl ar draul drychiadau llai pwysig. Adeiladwyd drychiad trillawr yr afon yn rhatach o garreg leol. Ar y tu mewn, mae’r cynllun yn corffori pilastrau Clasurol a nenfwd wedi ei rannu’n baneli dwfn. Ym 1990, trawsnewidiwyd capel y Wesleaid yn feddygfa. Ar y tu mewn, cadwyd bondo cornisiog yr oriel oddi amgylch, ond fe’i symudwyd ymlaen i ddiffinio gofod cul yn y canol sy’n darparu parth cerdded a man aros. Gosodwyd ystafelloedd ymgynghori o amgylch y gofod hwn ar ddwy lefel. Dim ond uchder drws yw muriau’r ystafelloedd uchaf ac mae hyn yn ein galluogi i weld y nenfwd estyllog gwreiddiol. Penseiri: Smith & Tuckwood, Pontypridd.
Yr Hen Gapel (The Old Chapel) Gweithdy a Neuadd, Pencader
Adeiladwyd yr hen gapel hwn yn gyntaf cyn belled yn ôl ag 1785 ac fe’i ailadeiladwyd ym 1827. Cafodd ei adeiladu o garreg rwbel leol gan ddilyn traddodiad muriau hir â’r drysau wedi eu gosod ymhell oddi wrth ei gilydd, ffenestri pengrwn a thâl meini talcennog. Ar y tu mewn, lleolwyd y pulpud ynghanol un o’r muriau hir, rhwng y ddwy ffenestr uchel. Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio’r capel ar gyfer gwasanaethau crefyddol tua 1900 ac yn lle hynny daeth yn neuadd bentref. Ymddiriedolwyr capel y Tabernacl sydd yn berchen ar yr Hen Gapel o hyd ac ym 1986 penderfynasant ei drawsnewid yn amgueddfa a gweithdai. Rhannwyd yr adeilad yn llorweddol drwy osod llawr newydd ar lefel yr oriel. Cadwyd rhannau blaen a meinciau’r oriel. Ar lefel y llawr gwaelod isrannwyd y lle gan barwydydd yn dri gweithdy. Defnyddir y tri gweithdy gan argraffydd a defnyddir y llawr uchaf ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau.
Bethesda Fflatiau Preifat, Bethesda
Mae gan yr hen gapel Annibynnol hwn, a gafodd ei adeiladu ym 1823 yn wreiddiol a’i ailadeiladu ym 1840, brif wyneb addurnedig, gyda muriau wedi eu gerwino, pilastrau Corinthaidd a chornisiau trymion. Gosodir y fynedfa y tu ôl i golofnau Tysganaidd solet. Mae’r pediment uchel uwchben y canol yn tynnu sylw at enw’r capel gynt a welir yn glir mewn llythrennau bras. Ffenestri pengrwn yw rhai llawr gwaelod y prif wyneb, ond mae gan y ffenestri uchaf bedimentau. Er ei fod yn dwyn yr enw Arafa Don bellach, erys prif wyneb y capel heb ei newid bron, er gwaethaf iddo gael ei drawsnewid yn fflatiau. Cadwyd y ffenestri gwydr lliw uchaf a hysbysfyrddau’r capel hyd yn oed. Ar y tu mewn, fodd bynnag, mae bron popeth wedi newid, gan y bu’n rhaid rhannu’r lle’n ystafelloedd ar wahân a gosod lloriau ychwanegol. Casglwyd nifer fawr o ffenestri newydd ar y drychiad ochr a’r drychiad cefn ynghyd mewn llinell fertigal, gan ledadleisio ffenestri uchel blaenorol y capel. Pensaer: Geraint Efans
Ectarc Canolfan Gynadledda, Llangollen
Adeiladwyd hen gapel y Bedyddwyr ym 1860 yn ôl y traddodiad Clasurol. Cafodd y prif wyneb deulawr talcennog ei adeiladu o friciau coch a defnyddiwyd tywodfaen euraidd i amlinellu’r pediment a chafodd ei ddefnyddio hefyd gyda’r bwâu cysylltiol mewn hanner cylch a’r pilastrau Dorig. Amlygir y ffenestri pengrwn a’r drws canolog gan golofnau cysylltiedig o dan fwâu a rabedwyd. Cafodd ei drawsnewid tua deng mlynedd yn ôl ar gyfer ECTARC (Canolfan Ewropeaidd ar gyfer Diwylliannau Traddodiadol a Rhanbarthol). Ar y tu allan, ni newidiwyd rhyw lawer ond amlygwyd y fynedfa gan ganopi mewn hanner cylch a grisiau o frics coch mewn hanner cylch. Caiff y man arddangos ar y llawr gwaelod ei oleuo’n artiffisial ac mae’r rhan fwyaf o’r ffenestri ochr wedi eu gorchuddio â phaneli cilfachog. Gosodwyd llawr newydd ar lefel yr oriel er mwyn darparu ystafell gynadledda fawr. Cafodd y nenfwd crwm gwreiddiol gyda’i rosod nenfwd ysblennydd a’i gornis â dail petalau ei gadw a’i ailaddurno er mwyn darparu lle godidog. Penseiri: Adran Benseiri Cyngor Sir Clwyd.
City United Reformed Ad-drefnu Capel, Caerdydd
Adeiladwyd y capel hwn, ynghyd â thwˆr a meindwr, ym 1866, yn yr arddull Gothig cynnar, yn ôl cynlluniau F.T. Pilkington, y pensaer o Gaeredin, ar gyfer cynulleidfa o Bresbyteriaid Albanaidd yn bennaf. Estynnwyd yr wyneb gorllewinol ym 1893 ac ad-drefnwyd y tu mewn ar ôl tân ym 1910, gan y pensaer lleol E.M. Bruce Vaughan. Defnyddir y capel fel addoldy hyd heddiw. Fe’i estynnwyd ym 1981 i ddarparu caffi ar y llawr gwaelod gydag ystafelloedd i’w gosod a chyfleusterau eraill uwchben. Ym 1992 gwnaethpwyd rhagor o newidiadau. Rhoddwyd llawr newydd yn lle’r oriel a gosodwyd sgrîn wydr i greu ‘goruwchystafell’ fawr, newydd. Cafodd y lle oddi tani, y gellir mynd i mewn iddo drwy’r porth deheuol, ei droi’n siop lyfrau. Cadwyd wyneb panelog moethus yr oriel wreiddiol. Mae hwn yn wynebu’r gysegrfa a wnaethpwyd ychydig yn llai i greu lle mwy clyd ar ffurf cylch bron. Penseiri: Wyn Thomas & Partners (1981); John Partridge & Chris Lodge Partnership (1992).
EGWYDDORION ARFER DA WRTH DRAWSNEWID CAPELI
Allanol
• Ceisiwch gadw cymeriad allanol y capel, gan ddefnyddio’r agoriadau presennol lle bynnag y bo’n bosibl.
• Ceisiwch gadw o fewn terfynau cyfaint presennol yr adeilad, gan ychwanegu cyn lleied ag y bo’n bosibl a heb ddymchwel dim.
• Dylid parchu’r llinellau to presennol, yn benodol, fel nad oes dim yn tynnu sylw oddi wrth ffurf gyffredinol y capel.
• Dylid cadw agoriadau presennol y drysau a’r ffenestri. Os na fydd y drysau a’r ffenestri presennol yn angenrheidiol gellir naill ai eu cadw’n allanol a’u blocio o’r tu mewn, neu eu blocio yn allanol â deunydd blocio cilfachog i ganiatáu i siâp yr agoriad gael ei weld.
• Dylid cadw plac enw’r capel (sy’n aml yn cynnwys manylion adeiladu ac ail-adeiladu) yn ei safle gwreiddiol.
• Dylid atgyweirio pob rhan o’r adeilad presennol fel y bo’n angenrheidiol, gan osod elfennau newydd sydd union yr un fath yn lle unrhyw hen elfennau sydd wedi treulio.
• Dylai unrhyw ddrysau neu ffenestri newydd gael eu cynllunio’n ystyrlon, dylent fod o faint addas a chael eu lleoli yn ofalus fel nad ydynt yn amharu’n weledol ar y drysau a’r ffenestri presennol.
• Mae’n well osgoi goleuadau to, ond os na fydd hyn yn bosibl dylent gael eu cynllunio’n briodol a’u lleoli yn ofalus fel nad ydynt yn fwrn ar y llygad. Mae ffenestri dormer yn amhriodol bron yn ddieithriad gan eu bod yn newid golwg y to ac yn torri llinell y to o’u gweld o rai onglau.
• Dylid gwneud cyn lleied o ychwanegiadau neu estyniadau i’r adeilad presennol ag y bo’n bosibl. Dylid eu lleoli’n ofalus mewn perthynas â’r adeilad gwreiddiol a dylent fod ar yr un raddfa.
• Dylai cynllun unrhyw ychwanegiad neu estyniad fod yn ystyrlon o safbwynt cymeriad yr adeilad presennol. Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i ychwanegiad gopïo arddull yr adeilad gwreiddiol o reidrwydd, nac ychwaith bod yn rhaid defnyddio yn union yr un deunyddiau. Yn hytrach, mae’n golygu na ddylai’r gwaith newydd wrthdaro â’r hen waith na thynnu’r llygad oddi wrtho.
• Lle bynnag y bo’n bosibl dylid cadw a gwarchod y nodweddion presennol — megis giatiau a rheiliau haearn — o fewn cwrtil y capel.
Mewnol
•Ceisiwch gadw cynifer o’r ystafelloedd ag y bo’n bosibl heb ddinistrio eu ffurf wreiddiol. Mae hyn yn amlwg o bwys arbennig mewn perthynas â phrif gorff y capel, er mai hon yw’r egwyddor fwyaf anodd i’w chyflawni mewn llawer o achosion. Os bydd y brif ystafell(oedd) yn cael eu his-rannu yn lleoedd llai, gellir cyflawni hyn yn aml trwy raniadau a lloriau hunangynhaliol nad ydynt yn amharu ar y strwythur gwreiddiol.
• Ceisiwch gadw cyntedd y fynedfa wreiddiol gan y gall hyn fod o fudd wrth inswleiddio gweddill yr adeilad rhag swˆn allanol (megis traffig) a’r tywydd.
• Ceisiwch hefyd gadw cynifer o nodweddion mewnol gwreiddiol y capel ag y bo’n bosibl — megis orielau a grisiau — yn eu safleoedd gwreiddiol.
• Yn yr un modd, ceisiwch gadw cynifer o’r ffitiadau gwreiddiol — megis panelu, ffitiadau golau, gwydr lliw — ag y bo’n ymarferol, yn eu safleoedd gwreiddiol. Os na fydd hyn yn ymarferol, oherwydd y cynllun newydd neu faint y ffitiad, efallai y bydd yn bosibl ail-ddefnyddio’r ffitiad mewn safle newydd.
• Lle bynnag y bo’n bosibl, dylid cadw’r ffenestri a’r gwydr gwreiddiol. Pan fydd yn angenrheidiol cuddio’r golau sy’n dod trwy ffenestr, gellir gwneud hyn drwy godi caeadau parhaol neu drwy adeiladu wal ffug neu raniad y tu mewn i agoriad y ffenestr.
• Dylid cadw nenfydau addurniadol hefyd a’u cadw o fewn golwg lle bynnag y bo’n bosibl ac yn briodol. Dylid gosod rhaniadau newydd yn y fath fodd i osgoi difrod i nenfydau (a’r nodweddion presennol eraill).
• Dylid cynllunio lloriau newydd a’u gosod yn y fath fodd i greu cyn lleied o ddifrod i’r waliau a nodweddion presennol eraill ag y bo’n bosibl. Gallai hyn olygu bod yn rhaid cynnal llawr newydd drwy strwythur cwbl newydd, er mwyn osgoi cyffwrdd â waliau eraill. Dylai fod yn bosibl adeiladu llawr newydd o fewn y capel heb orfod gwneud tyllau yn y waliau presennol na’r to er mwyn caniatáu i drawstiau parod gael eu cludo i’w lle.
• Dylai gorffeniadau a ffitiadau weddu i’r hyn sydd o’u cwmpas.
Cyffredinol
• Bydd yn rhaid wrth ganiatâd cynllunio ar gyfer unrhyw gynnig i newid defnydd neu addasu golwg capel.
• Bydd yn rhaid wrth ganiatâd Adeilad Rhestredig yn ogystal â chaniatâd cynllunio ar gyfer capel a restrir yn adeilad o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.
• Bydd yn rhaid i unrhyw newid defnydd o fan addoli crefyddol yn ddefnydd arall fodloni’r rheoliadau adeiladu presennol. Mae bodloni gofynion diogelwch tân yn hollbwysig, and o bosibl yn feichus, os bydd capel yn cael ei ddefnyddio at ddibenion y cyhoedd.