*
*
CADW (we) *
Llywodraeth Cynuddliad Cymru  
Newyddion Lleoedd i ymweld â hwy Cymorth i berchenogion Dysgu a Darganfod
Gwybodaeth am Cadw Digwyddiadau Deddfwriaeth Cyhoeddiadau
Cyswllt Aelodaeth Aelodaeth Llyfrgell Luniau
Gweithio i Cadw Masnach deithio Dolennau Cyswllt llogi Adeilad
* * *
English
Chwilio'r safle
* *
*
Cwestiynau Cyffredin
Map y safle
Amodau a Thelerau
*
Tirweddau hanesyddol

Ers tro bu Cadw, Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) a’r pedair Ymddiriedolaeth Archeolegol yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth ar sawl project sydd â’r nod o wella ein dealltwriaeth o dirwedd hanesyddol Cymru, ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol. Diben y llyfryn hwn yw disgrifio’r gwaith hwn; egluro pwysigrwydd a gwerth cyffredinol y tirwedd hanesyddol yng Nghymru; a chynnig gwybodaeth i’r rheini sydd am wybod mwy am yr agwedd hon ar ein gorffennol cyfoethog ac amrywiol.

Mentrau diweddar i nodi tirweddau hanesyddol

Ym 1998 a 2001, fel cam cyntaf tuag at godi proffil tirweddau hanesyddol yng Nghymru, cyhoeddodd Cadw, CCGC ac ICOMOS (y DU) (Y Cyngor Rhyngwladdol ar Henebion a Safleoedd) Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol yng Nghymru, mewn dwy gyfrol. Mae’r ddogfen ymgynghorol ac anstatudol hon yn amlygu’r hyn a dybir yw’r enghreifftiau gorau o wahanol fathau o dirweddau hanesyddol yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw’r detholiad o ardaloedd ar gyfer y Gofrestr hon yn lleihau pwysigrwydd gweddill tirwedd cyfoethog hanesyddol Cymru. Mae’r canllaw arfer da yn esbonio sut y dylid defnyddio’r Gofrestr wrth asesu effaith datblygiadau mawr ar y tirwedd hanesyddol.

Menter nodweddu tirweddau hanesyddol

Mae’r astudiaeth wreiddiol o dirwedd Cymru ar gyfer y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol yng Nghymru bellach wedi’i hehangu’n fenter arall sy’n cynnwys Cadw, CCGC a’r pedair Ymddiriedolaeth Archeolegol yng Nghymru. Mae’r fenter wedi dechrau drwy edrych yn fanylach ar nodweddion pob un o’r hanner cant ag wyth o dirweddau ar y Gofrestr. Staff arbenigol ym mhob un o’r pedair Ymddiriedolaeth sy’n ymgymryd â’r astudiaethau manwl o nodweddu tirweddau hanesyddol ac mae’r canlyniadau wedi ychwanegu’n sylweddol at ein dealltwriaeth wreiddiol o’r datblygiadau hanesyddol yn yr ardaloedd hyn.

Astudiaethau tirweddau hanesyddol

Mae adroddiadau ar astudiaethau manylach o nodweddu tirweddau hanesyddol ar gael yn swyddfeydd y pedair Ymddiriedolaeth Archeolegol yng Nghymru. Bellach maent hefyd yn cael eu rhoi ar wefannau’r Ymddiriedolaethau 
a chânt eu hysbysebu drwy gyfres o daflenni.

Dde: Ystyrir tirweddau gwledig a diwydiannol yn y Gofrestr.





Nôl Nôl Argraffwch y dudalen hon Argraffwch y dudalen hon
* * *
Stanleytown

Nantgywnant, Gwynedd
* * *

* Adnoddau *
* Gofalu am Dirweddau Hanesyddol (HTML) K
* Tirweddau hanesyddol - ffurfleni K
* Gofalu am Dirweddau Hanesyddol (pdf) K
* * *